Comisiwn y Senedd |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 19 Ionawr 2023 |
|
||||
Amser: |
09.30 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: SC(6)2023(1) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Y Gw. Anrh. Elin Jones AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Janet Finch-Saunders AS Ken Skates AS Joyce Watson AS |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol Lowri Williams, Pennaeth Adnoddau Dynol a Chynhwysiant Simon Hart, Pennaeth dros dro y Gwasanaethau Ariannol Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.b Datgan buddiannau
Gofynnodd y Comisiynwyr
2 Ail Gyllideb Atodol Comisiwn y Senedd 2022-23
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol y Comisiwn yn 2022-23. Tynnwyd sylw at y ffaith bod cyllideb atodol sy’n lleihau’r gofyniad arian parod cyffredinol gan £0.975 miliwn wedi cael ei hargymell. Dyma’r prif ffactorau a oedd llywio’r gyllideb atodol hon:
· Y ffaith bod y cynnydd yng Nghyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr wedi cael ei wrthdroi
· Gostyngiad yn y ddarpariaeth ar gyfer gwyliau blynyddol a gronnwyd
· Rhagolwg o danwariant yn y cyllidebau a glustnodwyd ar gyfer i) Penderfyniad y Bwrdd Taliadau, ii) cymorth i'r Bwrdd Taliadau a iii) cymorth i swyddfa’r Comisiynydd Safonau
· Gweithredu’r Safonau Adrodd Ariannol Ryngwladol 16 newydd – Prydlesi.
Cytunodd y Comisiynwyr i nodi a chymeradwyo’r Memorandwm Esboniadol, mewn perthynas â’r ail Gyllideb Atodol ar gyfer 2022-23, i’w gyflwyno i’w gynnwys yng nghynnig Llywodraeth Cymru yn Chwefror 2023 ar gyfer y gyllideb. Byddai hyn yn lleihad o £1.075 miliwn i’r Gyllideb Atodol Gyntaf a osodir ar gyfer 2022-23, sef gostyngiad o £0.975 miliwn yn y gofyniad arian parod net.
Cymeradwywyd hefyd y llythyr at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i gyd-fynd â'r Gyllideb Atodol arfaethedig.
3 Taliad Costau Byw 2022-23 i Staff y Comisiwn
Trafododd y Comisiynwyr gynnig i gefnogi gweithwyr y Comisiwn ar y cyflogau isaf gyda thaliad Costau Byw, a’r rheswm dros gasgliadau’r Bwrdd Gweithredol. Cytunodd y Comisiwn i wneud y canlynol:
· cefnogi penderfyniad y Bwrdd Gweithredol i wneud taliad o £500 i holl gyflogeion y Comisiwn y mae eu cyflog ar raddfeydd TS ac M3 (EO) (staff sy’n cael cyflog is na £32,000 cyfwerth ag amser llawn);
· cefnogi penderfyniad y Bwrdd Gweithredol i wneud taliad llawn i'r holl staff cymwys, gan gynnwys staff rhan amser ar sail ei Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb (EQIA);
· nodi bwriad y Bwrdd Gweithredol i wneud y taliad hwn mewn tri thaliad llai, rhwng mis Ionawr a mis Mawrth; a
chefnogi penderfyniad y Bwrdd Gweithredol i beidio â gwneud y taliad hwn i staff contractwyr, ac, yn hytrach, yn cefnogi penderfyniad i ysgrifennu at gyrff sydd â chontractau yn annog trefniadau tebyg.
4 Unrhyw faterion eraill
Gofynnodd y Comisiynwyr am sicrwydd ynghylch diogelwch y mynedfeydd i'r ystâd yn dilyn problem gydag un o'r paneli gwydr. Dywedwyd wrthynt fod atgyweiriadau dros dro wedi'u cwblhau a bod contractwr arbenigol a'n contractwr rheoli cyfleusterau wedi asesu'r sefyllfa cyn i'r fynedfa gael ei hailagor. Byddai camau gweithredu ychwanegol yn ymwneud â diogelwch y fynedfa yn cael eu cymryd yn yr wythnosau nesaf.